Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Blog Swyddogion 8: Llinellau Sirol

Yn y ffilm yma bydd PC Evans yn siarad am Llinellau Sirol (“County Lines”).

Mae Llinellau Sirol yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio symud cyffuriau mewn modd trefnedig ac anghyfreithlon o ddinasoedd mawr i mewn i drefi llai ac ardaloedd gwledig, yn aml drwy ddefnyddio plant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Mae grwpiau troseddol yn mynd ati i recriwtio pobl ifanc i gario cyffuriau. Mae’n gyffredin i aelodau ifanc grwpiau troseddol dargedu pobl ifanc eraill, yn enwedig y rhai hynny sy’n cael eu denu gan y ddelwedd a’r statws mae’n ymddangos fod y grŵp yn ei gynnig.

Yn y ffilm yma mi fydd PC Evans yn esbonio os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn poeni ynghylch unrhyw beth mewn perthynas â Llinellau Sirol mae pethau y gallwch chi eu gwneud.

YOUTUBE: https://www.youtube.com/watch?v=yZgC80m_nX4

I berson ifanc mae dod o hyd i oedolyn yr ydynt yn ymddiried ynddynt, fel rhiant neu ofalwr yn le da i ddechrau.

Yn yr ysgol, gallant bob amser siarad gydag athro neu Swyddog Heddlu Cymunedol Ysgolion.

Gellir hefyd gael help arlein. Gellir siarad â Childline neu Meic Cymru a fydd yn cynnig arweiniad a chefnogaeth.

Efallai eich bod hefyd wedi clywed am Fearless. Mae cysylltu gyda Fearless.org yn hollol ddienw ac mae eu gwasanaeth arlein yn golygu bod person yn gallu rhoi gwybod am unrhyw drosedd neu unrhyw bryder sydd ganddynt. Fyddan nhw ddim yn cymryd unrhyw fanylion personol a fydd dim modd adnabod y person sy’n riportio.

Cofiwch hefyd bod yr heddlu ar gael i helpu hefyd pan fydd pethau’n mynd o le. Gellir cysylltu â’r Heddlu ar 101, neu 999 mewn argyfwng.

Gyda’n gilydd gallwn helpu gadw’n plant yn ddiogel.

Blog Swyddogion SchoolBeat 8: Llinellau Sirol (YouTube)
visit