Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru
24.01.2023

Diwrnod Cofio’r Holocost 2023

Ionawr 27ain yw Diwrnod Cofio’r Holocost, ac eleni’r thema dan sylw yw ‘bobl gyffredin’

Mae’r neges eleni yn ein hatgoffa fod bobl gyffredin wedi bod yn rhan o bob agwedd o’r Holocost- wrth i’r Natsïaid erlid grwpiau eraill, ac yng nghyd-destun yr hil-laddiadau a ddigwyddodd yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Yn wir, gwelwyd bobl gyffredin fel drwgweithredwyr, gwylwyr, achubwyr, llygad-dystion- ac roedd bobl gyffredin yn ddioddefwyr.

Bobl gyffredin ydyn ni gyd heddiw, ond fe allwn fod yn bobl rhyfeddol yn ein gweithredoedd. Gall bob un ohonom wneud penderfyniadau sy’n herio rhagfarn, sefyll dros gasineb a chodi llais yn erbyn erledigaeth ar sail hunaniaeth.

Yn SchoolBeat cofiwn fod y bobl gyffredin wedi dioddef yn yr Holocost a’r hil-laddiadau eraill dros y byd, ond gobeithiwn y gallwn ni gyd fod yn rhyfeddol yn y ffordd rydym yn sefyll dros yr hyn sydd yn iawn ac yn dda.    

I gymryd rhan ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost:

Am 4yp ar 27 Ionawr byddwn yn cynnau cannwyll a’i osod yn saff ar y ffenest:

  • i gofio am y rhai gafodd ei llofruddio oherwydd pwy oedden nhw
  • i sefyll dros ragfarn a chasineb heddiw

Darllenwch rhagor am…