Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru
29.03.2023

Ichafswm Oedran Newydd i Briodas a Phartneriaeth Sifil

Mae deddfwriaeth newydd sydd yn gwahardd priodas plant wedi dod i rym yng Nghymru a Lloegr. Mae’r oedran cyfreithlon i briodi wedi codi i 18, sy’n golygu na all pobl ifanc 16 ac 17 oed briodi mwyach, na chael partneriaeth sifil hyd yn oed os yw eu rhieni’n rhoi caniatâd.

Mae Deddf Priodas a Phartneriaeth Sifil (Isafswm Oedran) 2022, a ddaeth i rym ar 27 Chwefror 2023, yn golygu ei bod bellach yn erbyn y gyfraith i orfodi plant i briodi. Mae troseddwyr sy’n trefnu priodasau plant yn wynebu dedfryd o saith mlynedd o garchar.

Dywedodd Pauline Latham AS, a chwaraeodd ran mewn sicrhau’r newidiadau i’r gyfraith trwy Fil Aelodau Preifat a gyflwynwyd i’r senedd, “Mae’r newid i ddeddfwriaeth ar briodas plant yn fuddugoliaeth enfawr i oroeswyr. Mae’n gam mawr ymlaen i fynd i’r afael â’r gamdriniaeth hon sydd fel arfer yn gudd a bydd yn rhoi mwy o amddiffyniad i’r rhai sydd mewn perygl.

Os ydych chi’n profi neu’n ofni eich bod mewn perygl o drais ar sail anrhydedd neu briodas dan orfodaeth, mae yna bobl y gallwch chi siarad â nhw a fydd yn gallu rhoi cymorth a chefnogaeth i chi, yn gyfrinachol.