Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Canabis

Canabis (Cannabis Sativa, Cannabis Indica)

Enwau stryd

Dope, Draw, Pot, Blow, Bush, Wacky Backy, Spliff, Marijuana, Ganja, Weed, Black, Hash, Grass, Shit, Skunk.

Gwybodaeth Gyffredinol

Sylwedd naturiol yw canabis sy’n dod o blanhigyn a elwir yn gyffredin yn hemp (cywarch). Daw yn wreiddiol o Tseina yn y ganrif gyntaf O.C. ac fe’i defnyddiwyd yn wreiddiol fel meddyginiaeth llysieuol. Mae’n blanhigyn trwchus sy’n tyfu yn y rhan fwyaf o’r byd. Yn dilyn alcohol a thybaco, hwn yw’r cyffur mwyaf cyffredin a ddefnyddir yng Nghymru.

Fel arfer mae ar gael fel darn o solid tywyll a elwir yn resin neu ‘grass’ sy’n cael ei gymysgu gyda thybaco a’i rhowlio mewn spliff neu joint, neu fel olew tywyll gludol. Gellir ei smocio mewn bong, buckets (puced) neu bibell. Gellir ei fragu fel diod neu ei goginio gyda bwyd a’i fwyta. Mae yna sawl math gwahanol o ganabis ac mae rhai megis ‘skunk’ yn gryf iawn.

Effeithiau

Yn aml mae’r effeithiau yn digwydd yn gyflym iawn:

Mae canabis yn cymell teimladau o ymlacio a chanfyddiadau dwys.  Gall defnyddwyr fod yn fwy siaradus.

 

  • Gall barn gael ei amharu  a defnyddwyr ddioddef colli cof yn y tymor byr.
  • Gall defnyddwyr deimlo’n sâl
  • Drwy goginio’r cyffur, yna ei fwyta mae’r effeithiau yn fwy dwys ac yn anoddach i’w rheoli gan ddod â chwant am fwyd , gelwir hyn yn ‘cael y munchies’

Risgiau

 

  • Gall canabis achosi dibyniaeth seicolegol, pyliau o banig, diffyg egni a pharanoia 
  • Drwy ei smocio gyda thybaco gall arwain defnyddwyr i droi’n gaeth i sigarennau. ( Gan gynyddu’r risg o gancr yr ysgyfaint)
  • Gall ysmygu canabis achosi clefyd anadlol cronig ee broncitis
  • Mae’n amharu ar y gallu i ddysgu a chanolbwyntio
  • Drwy ‘feddwi’ ar canabis mae gostyngiad yn y  gallu i gydlynnu yn arwain i risg o ddamweiniau.
  • Gall canabis achosi anhwylderau cenHeddlu a chymlethdodau mewn beichiogrwydd 

Dosbarth

Dosbarth B