Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru

Dihydrocodeine

 

Dihydrocodeine

Enwau’r Stryd

DF's, DF118's, DHC

Gwybodaeth Cyffredinol

Cyffur opioid lled-synthetig yw Dihydrocodeine sy’n gweithredu fel iselydd neu fel

analgesig i ladd poen cymhedrol a phrinder anadl, yn ogystal â gweithredu i leihau peswch. Dywedir ei fod ddwywaith cryfder Codin.

Cymerir Dihydrocodeine drwy’r geg ar ffurf tabled gwyn 30mg wedi eu marcio gyda DF118 neu fel ampule sy’n cael ei chwistrellu. Mae tabledi Co-dydramol yn cynnwys cymysgedd o Diyhdrocodeine a Parasetamol. 

Effeithiau

  • Gall Dihydrocodeine achosi ewfforia, lleihau pryder ac mae defnyddwyr yn honni eu bod wedi ymlacio.
  • Gall Dihydrocodeine achosi syrthni, dryswch a chwildod i’r defnyddiwr.

Risgiau

  • Yn y tymor byr gall y defnyddiwr ddatblygu goddefgarwch i’r cyffur.
  • Gall gynyddu’r tebygolrwydd o gael damweiniau.
  • Gall arwain i or-ddos.
  • Gall defnydd dro ar ôl tro arwain at ddibyniaeth corfforol a seicolegol. Gall ei chwistrellu achosi niwed i wythiennau a chylchrediad gwaed.

Dosbarth

Dosbarth B