Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru
25.11.2022

Diwrnod y Rhuban Gwyn 2022

Eleni, mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn glanio ar yr un wythnos â Chwpan y Byd FIFA y dynion, a bydd yn amlygu 11 nodwedd y gall dynion a bechgyn eu meithrin i hybu cydraddoldeb a diogelwch ymysg menywod — mae #TheGoal ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn 2022.

whiteribbon.org.uk/whiteribbonday22

 

Mae ein tîm o Swyddogion Heddlu Ysgolion yn cynnig cymorth i ddisgyblion trwy ddarparu gwersi sy’n addas ar gyfer eu hoedran a’u datblygiad, am bynciau yn cynnwys trais domestig, rhywiol neu drais yn seiliedig ar ryw.  Cynigir cwricwlwm o wersi SchoolBeat ar gyfer 5–16 oed i bob ysgol yng Nghymru.  Ein nod yw ceisio darparu oedolyn diogel ym mywyd pob plentyn y gallent ymddiried ynddynt, gan leihau’r stigma o godi llais ynglŷn â cham-drin.

Yn y flwyddyn academaidd olaf, ymwelodd ein swyddogion a 5,418 o ysgolion i ddarparu sesiynau ar y pwnc hwn, sy’n cynnwys:

Hafan Ddiogel (5–7 oed) Cam-drin Domestig

Ffrind neu Elyn (7–9 oed) Atal Cam-drin ar Blant

Stori Griff (10–11 oed) Atal Camfanteisio Rhywiol ar Blant

Yr Hawl i Fod yn Ddiogel (10–11 oed) Hawliau Plant

 

Pictiwr Peryg (11–12 oed) Delweddau Hunan-Gynhyrchu a Phwysau Cyfoedion

Edrychwch Pwy sy’n Siarad (12–13 oed) Atal Camfanteisio Rhywiol ar Blant / Paratoi at bwrpas rhyw

Cwlwm Twyll (12–13 oed) Atal Camfanteisio Troseddol ar Blant / “County Lines”

Twyll Peryglus (13–14 oed) Atal Camfanteisio Rhywiol ar Blant

Niwed Cudd (13–14 oed) Cam-drin Domestig

Na Yw Na (13–16 oed) Cydsyniad Rhywiol

Ie / Na (14–16 oed) Cydsyniad Rhywiol

“Stand Up Speak Up” (14–16 oed) Aflonyddu Rhywiol