Neidio i’r cynnwys
SchoolBeat.cymru
07.06.2021

Heddlu Gogledd Cymru yn cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth dylunio poster diogelwch ar y we

Enillwr – Gorllewin a Chyffredinol: Eva, Ysgol Edern

Enillwr – Canolog: Alyssa, St Brigid’s School

Enillwr – Dwyrain: Manulmi, Rhosddu Primary School

Mae enillwyr ein cystadleuaeth dylunio poster diogelwch ar y we gydag ysgolion cynradd ar draws gogledd Cymru wedi cael eu cyhoeddi.

Cafodd 578 o geisiadau ar ôl lansiad y gystadleuaeth ym mis Ionawr ac mae tri enillydd wedi cael eu dewis a fydd yn derbyn gwobr bersonol, ynghyd a gwobr ariannol ar gyfer eu hysgol.

Cafodd Eva, disgybl Blwyddyn 4 o Ysgol Edern, Pwllheli, Manulmi - disgybl Blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Rhosddu yn Wrecsam ac Alyssa, 8 oed a disgybl Ysgol St Brigid’s yn Ninbych eu dewis fel yr enillwyr yn dilyn panel beirniadu a oedd yn cynnwys y Prif Gwnstabl Carl Foulkes ac Uchel Siryfyfion Clwyd a Gwynedd.

Maent wedi ennill gwobr o £300 ar gyfer eu hysgolion ynghyd a thocynnau teulu Llechwedd.

Yn ôl ym mis Ionawr bu rhaglen SchoolBeat Heddlu Gogledd Cymru, y Tîm Diogelwch Seiber a PACT (Police and Community Trust) lansio’r gystadleuaeth hefo ysgolion cynradd y rhanbarth er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o sut i fod yn ddiogel ar y we.

Oherwydd y cynnydd yn y nifer o oriau mae plant a phobl ifanc wedi bod ar y we oherwydd y pandemig, roedd swyddogion eisiau i blant gael y cyfle i fod yn greadigol er mwyn cael y cyfle i ennill gwobrau gwych ar gyfer eu hunain a'u hysgolion.

Meddai’r Prif Gwnstabl Carl Foulkes: “Roedd yr ymateb gan blant ar draws gogledd Cymru yn wych gyda dros 570 o geisiadau. Cawsom nifer fawr iawn o ddylunia creadigol ac addysgiadol ac roedd yn benderfyniad anodd iawn dewis y tri gorau.

“Hoffem ddweud diolch o galon i'r cannoedd o blant a fu’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth, a dweud llongyfarchiadau anferthol i’r rhai buddugol.”

Oherwydd y nifer fawr o geisiadau, fe ddaru’r panel ddewis rhai ar gyfer ail a thrydedd wobr, ac mi fyddent i gyd yn derbyn gwobr diolch i gefnogaeth y ddau Uchel Siryf drwy eu cynlluniau Trechu Trosedd, Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, Rygbi’r Gweilch, Clwb Pêl droed Wrecsam, CGI, Cread a Mynydd Lechi Llechwedd.

Enillwyr a terfynwyr y rhanbarth orllewin (Gwynedd ac Ynys Môn):

· Ennillydd: Eva, Ysgol Edern: £300 ar gyfer yr ysgol a thocyn teulu Llechwedd

· Eilydd: Mali Wynne-Owen, Ysgol Pentreuchaf, Pwllheli: £150 ar gyfer yr ysgol a thocyn teulu Llechwedd

· Ifan Alun Midwood, Ysgol Gynradd Edern, Pwllheli

· Lacey Davies, Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala

· Caron Lleu Jones, Ysgol Bro Llifon, Groeslon

· Elsi Allsup, Ysgol Llanllechid

· Beca Wyn-Pass, Ysgol Brynaerau, Pontllyfni

· Wil Dafydd Williams, Ysgol Morfa Nefyn

· Nico Jones, Ysgol Nefyn

· Jessica Elizabeth Jones, Ysgol Llanbedrog

· Fflur Roberts, Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog

 

Enillwyr a terfynwyr y rhanbarth Ganolog (Conwy a Sir Ddinbych):

· Ennillydd: Alyssa, Ysgol St Brigid’s, Dinbych: £300 ar gyfer yr ysgol a thocyn teulu Llechwedd

· Eilydd: Samsun Grimley, Ysgol Maes Owen, Bae Cinmel: £150 ar gyfer yr ysgol a thocyn teulu Llechwedd

· Tabitha Shields, Ysgol Tudno, Llandudno

· Milly Clarke, Ysgol Gymuned Bodnant, Prestatyn

· Beatrice Roberts, Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych

· Daisie Lyons, Ysgol St Brigid’s, Dinbych

· Tallie Lloyd, Ysgol y Parc, Dinbych

 

Enillwyr a terfynwyr y rhanbarth dwyreiniol (Sir y Fflint a Wrecsam):

· Ennillydd: Manulmi, Ysgol Gynradd Rhosddu, Wrecsam: £300 ar gyfer yr ysgol a thocyn teulu Llechwedd

· Eilydd: Keirah Gallagher, Ysgol Bryn Pennant, Mostyn: £150 ar gyfer yr ysgol a thocyn teulu Llechwedd

· Sophie Carroll, Cornist Park School, Y Fflint

· Kyle Nuthall, Ysgol Penrhyn, New Broughton

· Bella Haynes, Ysgol yr Hafod, Johnstown

· Erin Bellis, Southdown Primary School, Bwcle

· Sophie Upton, Southdown Primary School, Bwcle

· Kelly Martin, Ysgol Estyn, Yr Hôb

· Gracie Jarvis, Ysgol yr Hafod, Johnstown