Egin Eithafiaeth
Bl8 Radicaleiddio ac Ethafiaeth
Addysg Atal Troseddau
Mae canllawiau gan y Swyddfa Gartref a gan Lywodraeth Cymru yn nodi'n fanwl y rôl hanfodol sydd gan ysgolion i gadw pobl ifanc yn ddiogel rhag cael eu hecsbloetio trwy ideolegau radical ac eithafol. Yn y wers hon, mae'r disgyblion yn dysgu ac yn deall beth yw radicaleiddio, eithafiaeth a therfysgaeth. Maen nhw'n dysgu adnabod yr arwyddion pan mae rhywun yn cael eu radicaleiddio ac yn dysgu sut i ddiogelu ffrindiau o ddylanwadau eithafol a pha gymorth a chefnogaeth sydd ar gael. Mae adnodd ffilm sy'n dilyn stori Rhodri a Kas, sy’n chwarae rhan annatod o fewn y wers. Mae'r ddau fachgen yn cael eu radicaleiddio, mae un bachgen yn cael ei ddylanwadu gan eithafiaeth grefyddol ac un arall gan gredoau asgell dde eithafol.
Gall ysgolion yng Nghymru ofyn am gyflwyno “Egin Eithafiaeth” drwy eu Swyddog Heddlu Ysgolion lleol. Dysgwch fwy am ein dull cydweithio ar y ddolen hon.